Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y bydd ein cynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol yn dychwelyd ddydd Mercher 24 Mai 2023.

Bydd y digwyddiad undydd hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn cael ei gynnal ar gampws Parc Cathays ac mae wedi'i anelu at y sawl sy'n gweithio gyda myfyrwyr ym Mlwyddyn 12 a 13.

Cadwch eich lle

Teachers

Gall cadw ar ben yr holl newidiadau diweddar ym myd Addysg Uwch (yn ogystal â’r rheini a gynlluniwyd) fod yn her felly os hoffech chi wybod rhagor am y rhain, ynghyd ag ystod o bynciau eraill, beth am ymuno â ni yn ein cynhadledd fydd yn digwydd yn fuan?

Diwrnod ardderchog, defnyddiol iawn, wedi ei drefnu’n dda. Rydw i’n gwerthfawrogi’r wybodaeth a roddwyd i ysgolion. Byddwn yn ei argymell yn fawr!

Pennaeth y Chweched Dosbarth, cynadleddwr 2019

Rhaglen

AmserGweithgareddDisgrifiad

08:45 - 09:15

Cofrestru a lluniaeth

 

09:15 - 09:30

Croeso

Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

09:30 - 10:00

Mewn iawn bwyll - iechyd meddwl myfyrwyr yn 2023

Mae’r siaradwr TEDx, yr awdwr a’r arbenigwr iechyd meddwl pobl ifanc, Dr Dominique Thompson, yn elwa ar ei dau ddegawd o brofiad clinigol yn y GIG i roi cipolwg ar yr heriau o ran iechyd meddwl y mae myfyrwyr yn eu hwynebu ac yn amlinellu'r hyn y gall ysgolion a cholegau ei wneud i helpu i baratoi eu myfyrwyr ar gyfer byd addysg uwch.

10:00 - 10:15

Cymorth i Fyfyrwyr: o safbwynt Prifysgol Caerdydd

Bydd Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr, Ben Lewis, yn trafod sut mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae ei rhan wrth gefnogi lles ein myfyrwyr.

10:15 - 11:00

UCAS: datblygiadau diweddar a'r 'daith i gael miliwn o ymgeiswyr'

Mae demograffig pobl ifanc 16-19 oed yn tyfu o hyd ond beth mae hyn yn ei olygu i'r rheini sydd eisiau gwneud cais i fyd addysg uwch yn ystod y blynyddoedd i ddod? Ynghyd â rhoi diweddariad cyffredinol am UCAS, bydd Ben Jordan (Pennaeth Polisi UCAS) yn ystyried yr hyn y bydd y cynnydd demograffig yn ei olygu hwyrach i'ch myfyrwyr.

11:00 - 11.15

Egwyl

 
11:15 - 11:45

Gofynnwch i'r arbenigwr — rhowch eich cwestiynau i'r panel

Yn dilyn diweddariad byr am dderbyniadau israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn ni’n troi at ein panel o gynghorwyr arbenigol sydd wrth law i ateb eich cwestiynau. Hefyd, bydd y panel yn cynnwys myfyrwyr presennol sy'n gallu rhoi syniad o’r hyn yr hoffen nhw fod wedi’i wybod cyn gwneud cais i fynd i’r brifysgol.

11:45 - 12:30

Dewiswch un sesiwn o blith yr opsiynau canlynol
  • Codi dyheadau, cyflawni potensial: y gefnogaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd (Ehangu Cyfranogiad)
  • Datblygu rhaglenni addysg uwch/gyrfaol yn eich ysgol neu goleg: sut gall adnoddau megis Unifrog helpu?
  • Defnyddio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd: y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg
  • Sefydliad sy’n Fyd-eang go iawn: trafodaeth bord gron myfyrwyr rhyngwladol a sesiwn holi ac ateb.
TimeActivityDescription

12:30 - 13:30

Cinio

Cinio rhad ac am ddim a gwybodaeth am y farchnad

13:30 - 14:00

Astudio a gwneud cais i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd (gan gynnwys cyngor ar y gyfres o gyfweliadau byr - MMI - a chyllid gan y GIG)

Mae Meddygaeth, Deintyddiaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd yn adnabyddus am fod yn gyrsiau cystadleuol. Er mwyn eich helpu i roi'r cyngor diweddaraf un i'ch myfyrwyr, bydd ein tîm yn rhoi cipolwg ar gyfleoedd ariannu'r GIG, gwybodaeth am y cyrsiau, y gofynion mynediad, y broses ddethol a fformat y cyfweliad ym Mhrifysgol Caerdydd.

14:15 - 15:30Dewiswch un sesiwn o blith yr opsiynau canlynol
  • Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg: llwybrau newydd ym maes gofal llygaid yng Nghymru
  • Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: Cadwraeth Gwrthrychau Amgueddfaol ac Archaeoleg
  • Ysgol Busnes Caerdydd: Cystadleuwch yn yr Ystafell Fasnachu!
  • Croeso i Abacws: Dewch i ddysgu myrdd o bethau gyda Sioe Gêm Microbit yn yr Ysgol Cyfrifiadureg
  • Taith o amgylch y campws dan arweiniad myfyrwyr gan gynnwys y cyfle i ymweld â chyfleusterau chwaraeon Campws Parc Cathays i gael gwybod rhagor am ein rhaglenni Perfformiad Uchel a’n rhaglenni chwaraeon arbenigol eraill.
15:30Ymadael

Mae'r rhaglen yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd a hwyrach y caiff y testun ei ddiwygio. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw newidiadau neu gansladau y mae’n rhaid eu gwneud yn y rhaglen oherwydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os caiff y gynhadledd ei gohirio neu ei chanslo, byddwn ni’n rhoi gwybod ichi drwy anfon ebost i’r cyfeiriad a roesoch inni. Os bydd yn rhaid inni ganslo/gohirio'r digwyddiad, ni fyddwn ni’n gallu ad-dalu costau teithio, gwesty na chostau cysylltiedig eraill yr ymwelwyr.

Rhaglen y Gynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol

Rhaglen y Gynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol

Sesiynau Ymneilltuo

Y gefnogaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd y sesiwn hon yn amlinellu'r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw sy’n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu sy’n agored i niwed yn ogystal â'r rhaglenni rydyn ni’n eu cynnig.

Nod ein rhaglenni yw magu hyder, meithrin datblygiad personol allweddol a sgiliau trosglwyddadwy yn ogystal â rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i fyfyrwyr wneud cais cryf a'u cefnogi wrth iddyn nhw bontio i'r Brifysgol.

Sut gall adnoddau megis Unifrog helpu?

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ysbrydoli'ch myfyrwyr i edrych ymlaen at eu hopsiynau yn y dyfodol? Mae sawl adnodd a phlatfform ar gael.

Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i Unifrog ac yn cyffwrdd â'r lliaws o opsiynau cymorth eraill sydd ar gael gan dimau cyswllt ysgolion a digwyddiadau’r Brifysgol, SACU a llawer mwy!

Gwahoddir hefyd syniadau am yr arferion gorau a ddefnyddir yn eich ysgol/coleg ar hyn o bryd.

Y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg

P'un a ydyn nhw’n derbyn ysgoloriaeth, yn ymgymryd â phrofiad gwaith dwyieithog, yn sefyll arholiadau yn Gymraeg neu'n dewis tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, bydd eich myfyrwyr yn cael y cyfle i ymuno â chymuned Gymraeg ei hiaith sy’n ffynnu yn y Brifysgol ac i ddefnyddio'r iaith drwy gydol eu hastudiaethau a'u bywydau bob dydd.

Dewch i wybod rhagor am y profiad unigryw y gallwn ni ei gynnig i'ch myfyrwyr gan mai ni yw’r unig brifysgol mewn prifddinas ddwyieithog sy’n rhan o Grŵp Russell.

Trafodaeth bord gron myfyrwyr rhyngwladol a sesiwn holi ac ateb

Mae Prifysgol Caerdydd yn denu rhai o'r myfyrwyr a'r staff gorau o bob cwr o'r byd ac mae mwy na 7,700 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 130 o wledydd.

Yn y drafodaeth, dan gadeiryddiaeth Dai Evans (Swyddfa Ryngwladol), cewch wrando o lygad y ffynnon ar rai o'n myfyrwyr rhyngwladol am pam eu bod wedi dewis Caerdydd, bywyd myfyrwyr, a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n codi wrth fyw ac astudio mewn gwlad a diwylliant arall.

Bydd y panel yn rhoi rhai awgrymiadau defnyddiol i'ch myfyrwyr a bydd y cyfle i ofyn cwestiynau.

Llwybrau newydd ym maes gofal llygaid yng Nghymru

Mae gyrfa optometreg yn newid. Gan fod llwybrau newydd ym maes gofal llygaid yng Nghymru yn newid, bellach mae apwyntiadau gofal eilaidd yn symud i ofal sylfaenol. Mae hyn yn golygu y gall cleifion bellach gael eu rheoli gan optometryddion yn y gymuned, yn hytrach na gorfod mynd i'r ysbyty ar gyfer eu hapwyntiad llygaid.

Mae hyn wedi arwain at uwchsgilio optometryddion mewn nifer o feysydd gan gynnwys retina meddygol, rhagnodi annibynnol, golwg gwan, gofal llygaid pediatrig, gofal llygaid acíwt, a glawcoma.

Byddwn ni’n amlinellu'r newidiadau diweddar sydd wedi bod yng nghwrs Optometreg mewn ymateb i'r newidiadau yn y proffesiwn a bydd y daith yn dangos y cyfleusterau clinigol sydd wedi'u teilwra i hyfforddi ac uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o optometryddion.

Cadwraeth Gwrthrychau Amgueddfaol ac Archaeoleg

Mae Prifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn addysgu Cadwraeth Gwrthrychau Amgueddfaol a’r adran Archaeoleg yw un o’r hynaf yn y DU.

Bydd y daith yn ymweld â'r Labordai Cadwraeth lle byddwn ni’n edrych ar yr arteffactau gan gynnwys arch Eifftaidd, rhwymyn mymi a phanel lledr allor ac yn trafod rôl celf a gwyddoniaeth ym maes cadw arteffactau yn ogystal â gweld sut mae archeolegwyr yn defnyddio'r mathau o gyfleusterau gwyddonol yn yr Ysgol.

Mae'r cyfleusterau’n cynnwys offer dadansoddol megis y Microsgop Electronau Sganio (EM EDX), FTIR, XRF, a chyfleusterau pelydr-x. Defnyddir pob un o’r rhain i nodweddu ac astudio gwrthrychau a mecanweithiau dadfeilio. Byddwn ni’n ymweld â'r cyfleusterau lle rydyn ni’n ymchwilio i gyfraddau cyrydu metelau ac effeithlonrwydd araenau metel o ran arafu’r broses o gyrydu, ac yn esbonio sut mae’r ymchwil hon yn llywio arferion yn y proffesiwn cadwraeth a threftadaeth.

Bydd cyfle i holi am yrfaoedd ym maes Cadwraeth ac Archaeoleg.

Cystadleuwch yn yr Ystafell Fasnachu!

Ystafell Fasnachu Ysgol Busnes Caerdydd yw’r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Diben yr Ystafell Fasnachu yw efelychu llawr masnachu fel pe bai’n digwydd yn y byd go iawn, gan helpu’r myfyrwyr i wella’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u harddull masnachu.

Mae'r ystafell yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y Gyfnewidfa Stoc. Mae'r Ystafell Fasnachu yn rhan annatod o roi profiad ymarferol i fyfyrwyr cyllid.

Defnyddir y cyfleuster yn aml ar gyfer sesiynau addysgu ffurfiol ond mae hefyd ar gael at ddefnydd unigolion a grwpiau. Yn ystod y sesiwn flasu hon byddwn ni’n eich arwain drwy sesiwn flasu yn yr Ystafell Fasnachu.

Byddwch chi’n gweithio mewn parau o fasnachwyr a dadansoddwyr, ac yn cystadlu yn erbyn y timau eraill i weld pwy all wneud y buddsoddiadau gorau o ran y stociau a’r cyfranddaliadau sy'n creu’r elw mwyaf.

Ar ôl taith fer o amgylch ein cartref gwych newydd – Abacws – cymerwch ran yn ein sioe gêm ryngweithiol sy'n cyfuno technoleg ddiweddaraf Microbit â fformat cyflym sy’n seiliedig ar gwestiynau cyffredinol. Byddwch chi’n treulio'ch ymweliad yn un o'n labordai pwrpasol ac yn gweld o lygad y ffynnon sut y bydd ein myfyrwyr yn gweithio ar y cyd ar agweddau sylfaenol y pwnc megis codio.

Mae Sioe Gêm Microbit hefyd yn offeryn addysgu pwerus a all eich helpu i wella dysgu eich myfyrwyr mewn ystod o bynciau. P'un a ydych chi’n addysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg, neu unrhyw bwnc arall, gall ymgorffori technoleg Microbit yn eich gwersi eich helpu i greu profiadau ymarferol a rhyngweithiol a fydd yn swyno eich myfyrwyr ac yn gwella eu dealltwriaeth.

Taith o gwmpas ein Campws Parc Cathays, gan gynnwys aros yn ein cyfleusterau chwaraeon

Ymunwch â'n tywysydd sy’n fyfyriwr ar daith gerdded o amgylch y campws ym Mharc Cathays i ddysgu rhagor am adeiladau'r Brifysgol a'r ddinas.

Bydd y daith hefyd yn ymweld â champfa ffitrwydd a chyflyru’r Brifysgol er mwyn rhoi’r cyfle ichi weld y cyfleusterau ac i ddysgu rhagor am y rhaglenni Perfformiad Uchel a rhaglenni chwaraeon arbenigol eraill yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael i'n myfyrwyr.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost aton ni i schools@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi gwestiynau.