Ewch i’r prif gynnwys

Llety

Mae byw yn llety prifysgol yn ffordd wych o ddechrau bywyd yn y brifysgol a chwrdd â myfyrwyr newydd eraill. Mae amrywiaeth o breswylfeydd ar gael mewn gwahanol leoliadau o gwmpas y campws ar gyfer mwy na 5,500 o fyfyrwyr.

Dod o hyd i'r llety cywir i chi

Mae gennym amrywiaeth o neuaddau a lletai sy’n addas i’r hyn sydd orau gennych, eich diddordebau a’ch cyllideb.

Llety i ôl-raddedigion
Llety i israddedigion
Llety i israddedigion sy'n astudio gofal iechyd

Right quote

Symud i neuadd breswyl yw’r peth gorau y gall myfyriwr newydd mewn dinas newydd ei wneud. Mae’n anodd disgrifio'r amser gwych ces i yn fy neuadd – rwy’n ei argymell yn gryf i bawb!

Freya, sy’n aros yn Ne Tal-y-bont

Gallwch wneud cais i aros yn llety'r Brifysgol ar ôl cael cadarnhad bod eich cais i astudio yma wedi’i dderbyn.

Mae'r rhan fwyaf o'n llety yng nghanol y ddinas ac o fewn pellter cerdded byr i'r brifysgol. Bydd ein rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid myfyrwyr yn eich helpu i ymgartrefu'n gyflym a chwrdd â phobl newydd.

Mae gennym ystod o lety i ddiwallu dewisiadau a chyllidebau unigol; gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr LGBT+, siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, teuluoedd a chyplau, a dewisiadau byw'n dawel.

Mae llety wedi'i addasu'n arbennig ar gael, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a myfyrwyr â nam ar eu clyw. Gallwn hefyd wneud addasiadau rhesymol i ystafell i gefnogi myfyrwyr ag anabledd.

Canllaw Preswylfeydd

Llawylyfr am fyw yn Llety'r Brifysgol

Llety haf i fyfyrwyr (arhosiad byr)

Mae gan y Brifysgol lety hunanarlwyo sydd ar gael yn ystod yr haf.