Llety a symud yma
Diweddarwyd: 16/08/2022 16:31
Unwaith rydych wedi derbyn cynnig pendant i astudio gyda ni, gallwch wedyn wneud cais ar gyfer lle ym mhreswylfeydd y brifysgol.
Er mwyn trefnu eich llety, bydd angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair SIMS. Byddwn yn ebostio’r manylion isod i chi ar ôl i ni roi cynnig i astudio i chi.
Bydd myfyrwyr israddedig sydd wedi dewis Prifysgol Caerdydd fel naill ai eu dewis cadarn neu ddewis wrth gefn yn sicr i gael llety yn y brifysgol yn eu blwyddyn gyntaf.
Gallwch hidlo'r dewisiadau llety gydag amrywiaeth o opsiynau yn cynnwys arlwyo ac ystafelloedd ymolchi.