Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli pobl ifanc i fyw bywyd gwyddonol

6 March 2023

Mae dyn yn cyfweld â menyw ar lwyfan. Mae pob un yn siarad i mewn i’r meicroffonau. Mae lliain bwrdd Radio 4 dros fwrdd bach rhwng y ddau berson. Mae cynulleidfa yn eu gwylio.
Yr Athro Haley Gomez yn trafod ei bywyd a'i gwaith ar lwch cosmig gyda'r Athro Jim Al-Khalili ar raglen The Life Scientific ar Radio 4 mewn digwyddiad lansio arbennig ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi rhannu eu syniadau a'u harbenigedd â phlant, pobl ifanc ac aelodau'r gymuned yn rhan o ŵyl ledled y ddinas sy'n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru.

Boed yn ddosbarthiadau meistr gwyddbwyll, strategaethau i oroesi apocalyps y sombîs, echdynnu DNA mefus a gwyddoniaeth y gorffennol, cafodd y sawl a ddaeth i’r ŵyl y cyfle i ddysgu am yr wyddoniaeth ryfeddol y tu ôl i'n bywydau bob dydd.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, sy'n digwydd bob mis Chwefror, yn dathlu'r ymchwil rhagorol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a'r cyfathrebwyr gwyddoniaeth byd-enwog sydd ym mhrifddinas Cymru.

Dechreuodd digwyddiad lansio arbennig yr ŵyl yn y Pierhead ym Mae Caerdydd pan gafodd yr Athro Haley Gomez, Dirprwy Bennaeth Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, ei chyfweld gan y darlledwr a'r ffisegydd yr Athro Jim Al-Khalili ar raglen The Life Scientificar Radio 4.

“Gwn o brofiad sut y bydd pynciau STEM weithiau yn ymddangos y tu hwnt i gyrraedd rhai rhannau o’r gymdeithas. Ac, yn anffodus, mae rhai rhwystrau gwirioneddol o hyd o ran canfyddiadau a gallu merched a phobl dosbarth gweithiol i gymryd rhan. Rydyn ni’n gweithio'n galed i oresgyn y rhain mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau drwy wahodd pobl ifanc i'r Brifysgol. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ac yn addysgu plant a phobl ifanc ac yn dangos iddyn nhw fod lle yma iddyn nhw.”

“Mae'r math hwn o waith allgymorth wrth galon Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ac felly rwy'n hynod o falch bod cydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol yn cymryd rhan ac yn rhoi eu harbenigedd i'n cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a mathemategwyr o Gymru.”

Gwirfoddolwyr sydd yng ngofal yr ŵyl, sy’n digwydd dros bedwar diwrnod ac yn cael ei chefnogi gan Ymchwil ac Arloesedd y DU a First Campus. Bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ledled lleoedd mwyaf eiconig Caerdydd gan gynnwys campws dinas y Brifysgol ac mewn digwyddiadau sydyn i bobl gymryd rhan ynddyn nhw mewn llyfrgelloedd, caffis a bariau.

Dewch i ddal i fyny ar uchafbwyntiau Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cyflwyno cenhadaeth ddinesig i gefnogi iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru drwy weithio gyda’n cymunedau.